top of page

Pizza

1. Prynwch gwaelod pizza neu creu un.

2. Trowch eich ffwrn ymlaen i 200 gradd selsiws.

3 Rhowch 2 llwy fwrdd o basata tomato ar bob gwaelod.

4. Rhowch mozzerella ar pob pizza.

5. Rhowch oregano arno.

6. Rhowch eich pizza yn y ffwrn am 10 munud.

7. Mwynhewch!

Ryseitiau

 Cookies Siocled Chip

1. Trowch eich ffwrn ymlaen i 180 gradd a rhowch ychydig o olew ar 2 fwrdd pobi.

2. Cymysgwch 100g o fenyn gyda 100g o siwgr caster tan eu bod yn hufennog.

3. Cymysgwch mewn 1 wy tan ei fod wedi ei gymysgu'n dda.

4. Rhidylliwch 175g o flawd plaen i mewn a 175g o chips siocled.

5. Cymysgwch yn dda a rhannwch y gymysgedd mewn i 12 pelen ar y byrddau pobi.

6. Pobwch nhw am 10-15 munud a wedyn eu gosod ar resel oeri i oeri.

Brownies

1.Rhowch ychydig olew yn y tun a rhowch bapur pobi arno. Trowch y ffwrn ymlaen i 180 gradd.

2.Cymysgwch 275g o fenyn,375g o siwgr caster,4 wy,75g o bowdr coco,100g o flawd hunan godi, a 100g o chips siocled.

3. Rhowch y gymysgedd yn y tun a'i bobi am 40-45 munud. Yna, rhowch y brownies ar y resel oeri i oeri.

 

Cornflakes Siocled

1. Toddwch 225g o siocled,50g o fenyn, a 1 llwy fwrdd o driog.

2. Tra bod hynny yn toddi, rhowch 18 casyn cup cake allan. 3.Yna ar ol iddo doddi,cymysgwch mewn 75g o gornflakes a'i rhannu mewn i'r casau cup cake, a'u gadael i oeri yn yr oergell. 

bottom of page